Meddwl am Werthu? Rydym yn gwerthuso ac yn prisio eitemau ar-lein heb rwymedigaeth. Ble bynnag y byddwch chi! Gwerthusiadau Digidol

Celf, Dodrefn a Phorslen Cymreig & Dodrefn

To contact a specialist

Ben Rogers Jones BA (Anrh)
HYNAFOLION A CHELF GYMREIG & ARBENIGWR HEN BETHAU’R BYD CHWARAEON

+447760261023

Ben Rogers Jones yw’r prisiwr, yr ymchwilydd a’r catalogydd ar gyfer eitemau o ddiddordeb Cymreig ac mae ganddo dros ugain mlynedd o brofiad proffesiynol ym myd celf Gymreig. Ni yw arweinwyr y farchnad yn y maes hwn a'r unig dŷ ocsiwn i gynnal arwerthiant sefydledig sy’n arbenigo ym 'mhopeth Cymreig'.

Cyflawnodd yr arwerthiant Cymreig yn 2018 record o £1m o ran gwerthiant yn eu tri arwerthiant Cymreig tymhorol. I gael y canlyniadau gorau, cynhelir yr arwerthiant ym mhrifddinas y genedl, Caerdydd.

Mae ein dwy ystafell arwerthu, yng Ngogledd a De Cymru, ynghyd â’n swyddfa ranbarthol yng Ngorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin yn golygu y gallwn ddarparu gwasanaeth personol i werthwyr celf Gymreig unrhywle yng Nghymru.

Cynhelir yr Arwerthiant Cymreig fel arfer yn gynnar yn y gwanwyn, yr haf a diwedd yr hydref/gaeaf o’n hystafell arwerthu yng Nghaerdydd ac mae, fel rheol, yn cynnwys hen bethau Cymreig, dodrefn Cymreig, crochenwaith a phorslen Cymreig a darluniau Cymreig.

Dros y blynyddoedd, rydym wedi cyrraedd y prisiau uchaf erioed ar gyfer artistiaid a hen bethau Cymreig, gan gynnwys y pris morthwyl uchaf ar gyfer paentiad gan Syr Kyffin Williams RA yn ogystal â John Knapp-Fisher, Claudia Williams, Will Roberts ac artistiaid eraill.

Sir Kyffin Williams RA 'Fox Shoot'

Record Arwerthiant presennol

£60,000

Bba3c6d3 b68c 4d17 b292 9743d66be4ca

Ar ôl cynnal yr Arwerthiant Cymreig am gyfnod mor hir, rydym wedi datblygu cronfa ddata rhagorol o gasglwyr popeth Cymreig. Nid yw'n anarferol derbyn cynigion Cymreig o dramor ar gyfer yr arwerthiant, nac i ni, mewn gwirionedd, werthu eitemau i gasglwyr dramor. Un o brif fanteision gwerthu eich eitemau yn yr Arwerthiant Cymreig yw ei fod yn ddigwyddiad unigryw yn y calendr arwerthiannau, yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, ond, yn hollbwysig, yn adnabyddus iawn yng Nghymru. Rydym ni wastad yn cofio bod y rhan fwyaf o brynwyr celfyddyd gain Gymreig, boed hynny’n baentiadau, yn borslen neu’n hen bethau – yn Gymry sy’n byw yma yng Nghymru yn bennaf.

Os oes gennych chi gynigion posibl ar gyfer Yr Arwerthiant Cymreig, cysylltwch â ni mewn da bryd. Mae angen i ni dderbyn cynigion o leiaf chwe wythnos cyn yr arwerthiant ond yn gynt os yn bosib.

Rydym yn asesu pa mor addas yw eitemau ar gyfer Yr Arwerthiant Cymreig ac nid yw pob eitem Gymreig yn cael ei ddewis. Sylwch hefyd nad ydym, yn anffodus, yn gwerthu gwaith yr artist ei hun yn Yr Arwerthiant Cymreig.

Isod mae rhai dolenni i erthyglau sy'n ymwneud â’r Arwerthiant Cymreig a chofnod o'r prisiau a gafwyd.

Our Expertise

Imminent Auctions

IMG 0673

Jewellery, Collectables & Fine Art

7 Mai 2024 10:00 YB
Bae Colwyn

Pori & Bidio

IMG 0676

Jewellery & Collectables

17 Mai 2024 10:00 YB
Caerdydd
Gwahoddir eitemau

Cyflwyno eitemau

Fine Art & Interiors

21 Mai 2024 10:00 YB
Bae Colwyn
Gwahoddir eitemau

Cyflwyno eitemau

Subscribe to our catalogue alerts