Meddwl am Werthu? Rydym yn gwerthuso ac yn prisio eitemau ar-lein heb rwymedigaeth. Ble bynnag y byddwch chi! Gwerthusiadau Digidol

Geirda

We would like to thank Ben and the entire Rogers Jones team for their diligence and professionalism in handling our recent auction with them.

With best wishes, Sir Gareth Edwards and family.

Hwn oedd y tro cyntaf i mi fynd ag unrhyw beth at arwerthwr.

Yr hyn a greodd argraff arnaf i ddechrau oedd gallu Ben i ddangos diddordeb gwybodus a brwdfrydedd heb fod yn ymwthgar o gwbl; roedd hyn yn bwysig i mi.

Roedd y cyfathrebu'n ardderchog, ymatebwyd i bob e-bost a galwad ffôn yn brydlon iawn, (fel arfer o fewn ychydig oriau), a chefais wybod am unrhyw ddatblygiadau a sut roedd y broses yn gweithio'r holl ffordd drwodd.

Er mai Ben oedd yr arbenigwr, roeddwn yn dal i deimlo fy mod wedi cael amser ac yn cael gwneud y penderfyniadau ar ôl iddo fy hysbysu o'r opsiynau oedd ar gael. “Meddyliwch am y peth dros nos” byddai'n argymell.

Cawsom fwy na'r hyn yr oeddem yn gobeithio amdano a theimlais fy mod mewn dwylo saff drwy'r cyfan.

Gallaf yn sicr eu hargymell a byddwn yn defnyddio'r cwmni eto.

— Gwerthwr dros ‘Salem’, a werthwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru

Fe wnaethom ddefnyddio Rogers Jones ar gyfer prisiad ystâd o eiddo fy rhiant. Fe ddaeth Ben ei hun i ymweld â'r eiddo a bu'n gefnogol a gonest iawn ynglŷn â phob agwedd, gan gynnwys rhai paentiadau gwerthfawr. Gwnaethon ni gymaint o argraff fel ein bod wedi’u defnyddio ar gyfer pob gwerthiant, gan gynnwys paentiad LS Lowry.

Roeddem wedi rhagweld i ddechrau y byddem yn gwerthu hwn a rhai paentiadau artistiaid adnabyddus eraill trwy un o’r cwmnïau arwerthu cenedlaethol mawr. Fodd bynnag, roedd agwedd bersonol Ben yn llawer mwy at ein dant, a llwyddodd i gyrraedd prisiau gwerthu a oedd yn rhagori ar ein holl ddisgwyliadau.

— R Hart - Cardiff

Hoffwn ddiolch i chi am arwerthiant llwyddiannus o fedalau fy niweddar dad. Fe wnaethon ni ei ddilyn ar-lein ac ni allwn gredu rhai o'r prisiau a gyrhaeddwyd. Unwaith eto, diolch am eich proffesiynoldeb a'ch gwaith yn ystod y broses hon.

— Mr Stock – Rhondda Cynon Taf

Rwyf wedi defnyddio ystafelloedd arwerthu cwmni Rogers Jones yng Nghaerdydd yn aml ers iddynt ddod i’r Brifddinas ac nid wyf yn petruso o gwbl eu hargymell ar gyfer prynu a gwerthu hen bethau a chelfyddyd gain. Maent yn darparu gwasanaeth cyfeillgar, effeithlon ac, ar bob lefel o'r cwmni, maent bob amser yn barod iawn i helpu.

Mae eu harwerthiannau Cymreig rheolaidd yn ddigwyddiad na ellir ei golli i bawb sydd â diddordeb mewn hen bethau, paentiadau a chrochenwaith a phorslen Cymreig lle nad oes modd cael gwell amrywiaeth a safon eitemau yn unrhywle arall.

— D T - Cardiff

Yn dilyn argymhellion, a gweithredu fel Ysgutor ystâd, rwyf wedi defnyddio gwasanaethau cwmni Rogers Jones o Fae Colwyn ar gyfer prisiadau Profiant ac, wedi hynny, ar gyfer dau arwerthiant yng Nghaerdydd. Roedd eu cyngor arbenigol yn amhrisiadwy i mi ac roeddwn yn ddiolchgar am yr arweiniad gonest a phroffesiynol a dderbyniwyd trwy gydol y broses.

Roedd disgrifiadau a chyflwyniad yr eitemau yn y catalogau wedi creu argraff ar y buddiolwyr ac roeddynt wrth eu bodd gyda chanlyniad yr arwerthiant. Maent wedi gofyn i mi ddiolch i bawb dan sylw a hoffwn hefyd ddiolch yn bersonol i'r staff yn swyddfeydd Bae Colwyn a Chaerdydd.

— Mr Lloyd - Sir Ddinbych

Rwyf wedi gwylio arwerthiant heddiw ar-lein. Mae'r canlyniadau'n edrych yn wych. Diolch i chi unwaith eto am eich holl ymdrechion ar fy rhan ac rwy'n falch iawn fy mod wedi penderfynu trosglwyddo'r casgliad o pietra-dura i gwmni Rogers Jones. Bu eich amcangyfrifon, eich ffotograffiaeth a'ch catalogio o gymorth mawr gyda'r prisiau terfynol.

— Dr Austin – Swansea

Roeddwn i eisiau rhoi gwybod i chi fod John Lammin a'i deulu (cludwyr Gorllewin Cymru) mor barod i helpu i glirio tŷ ein Modryb yn Abertawe. Roeddent mor weithgar a phroffesiynol, ond hefyd mor gyfeillgar a chymwynasgar gan wneud y broses gyfan yn syml. Fe weithion nhw'n galed iawn i glirio'r tŷ o fewn dau ddiwrnod. Diolch i chi am eich argymhelliad.

— Ms Packenas – Abertawe

Roedd yn sicr yn ddiwrnod i’w gofio! Cefais fy syfrdanu a'm gwefreiddio gyda'r canlyniadau. Rwy’n gobeithio bod y casglwyr yr un mor falch o’u medalau newydd ac y byddant yn eu trysori. Roeddwn yn falch iawn gyda’r holl ganlyniadau ac yn synnu’n fawr fod y casgliad bychan o eitemau Iwmyn Sir Benfro wedi cael eu derbyn mor dda.

Diolch yn fawr iawn am yr amser a'r ymdrech a roddoch ac am arddangos yr eitemau yn y catalog mewn modd mor broffesiynol. Roedd yn bleser eich cael yn y tŷ i edrych ar yr eitemau yn y dechrau. Efallai y byddai’n well i mi fynd yn ôl i fyny i’r atig, rhag ofn fy mod wedi methu unrhyw beth!

— Mr Griffiths - Sir Benfro

Fy niolch diffuant i Charles Hampshire a holl staff cwmni Rogers Jones am y cwrteisi a’r proffesiynoldeb a ddangoswyd mewn arwerthiant ar-lein hynod effeithiol yn ddiweddar o’m paentiad.

— Mr Morris - Sir Gaerfyrddin

Penodais Ben Rogers Jones o gwmni Rogers Jones i werthu casgliad rygbi gwerthfawr fy nhad o’i ddyddiau’n chwarae dros Gymru a Llanelli. Gwnaeth gwaith ymchwil a chatalogio manwl Ben a’r proffesiynoldeb a’r ymdrech gyffredinol a roddodd i’r gwasanaeth cyfan argraff arnaf. Roedd yn brawf bod Caerdydd yn brifddinas ar gyfer gwerthu hen bethau rygbi yn ogystal â'r gamp ei hun.

— S Gale - Llanelli

Hoffwn ddweud diolch o waelod calon am holl waith caled a chefnogaeth Stephen, fe aethoch yr ail filltir gyda’ch ymchwil cefndirol (cysylltu â chwmnïau arwerthu yn Ffrainc ac ati). Roedd yn amser anodd adeg colli fy Nhad a gwerthu ei gasgliad o fasgotiaid ceir, ond byddai wedi bod yn falch iawn o’ch gwasanaeth. Diolch! Nid wyf yn oedi cyn argymell eich gwasanaethau i eraill.

— V Marginson – Gogledd Cymru

Mae Charles a'r tîm yn Rogers Jones wedi bod yn barod iawn i helpu ni a'n cleientiaid i ddelio ag eiddo ar gyfer ystadau. Mae Charles bob amser wedi ateb ymholiadau ac wedi cynorthwyo mewn modd amserol a phroffesiynol.

— Jessica Collier – Cyfreithwyr Hek Jones, Caerdydd

Rydym yn defnyddio cwmni Rogers Jones ar gyfer yr holl waith arwerthu ac, yn arbennig, Charles, sy'n gweithio o gangen Caerfyrddin. Rydym yn eu gweld yn broffesiynol iawn, yn gyflym ac yn wybodus.

— Edward Friend, Cyfarwyddwr - Carreg Law, Llandeilo

Charles, roeddem yn meddwl bod yr arwerthiant yn wych! Diolch yn fawr iawn am eich holl ymdrechion. Rydyn ni mor hapus bod y teganau adrodd straeon yn mynd i Amgueddfa Sain Ffagan, mae'n teimlo’n iawn, ac am bris gwych iddyn nhw!

Rwyf hefyd yn hapus iawn gyda'r pris ar gyfer yr oriawr Timor, mae'n wych ei weld yn mynd at rywun a fydd yn ei werthfawrogi.

— Mrs Bowen, Sir Gaerfyrddin

Mae Rogers Jones wedi cynnal nifer o brisiadau cynnwys ac arwerthiannau ar ein rhan fel rhan o’n gwasanaeth Gweinyddu Ystadau, yn amrywio o gynnwys cyffredinol y cartref i eitemau hynafol ac arbenigol. Rydym bob amser wedi eu canfod yn broffesiynol iawn, yn effeithlon ac yn wybodus. Darperir gwasanaeth o safon bob amser.

— Sean Boucher, Cyfreithwyr JCP – Caerfyrddin

Cysylltodd Mr David Rogers Jones â mi ddydd Gwener ddiwethaf i ofyn a allwn anfon fy nodyn o werthfawrogiad atoch eto i'w gynnwys ar eich gwefan. Yn anffodus ni allaf ddod o hyd i'r gwreiddiol ond anfonaf y canlynol atoch.

Hoffwn ddiolch i Mr David Rogers Jones a holl staff y cwmni a fu'n ymwneud â'r arwerthiannau ym Mae Colwyn a Chaerdydd. Yr oeddwn wedi gwerthfawrogi yn fawr y ffordd sensitif a charedig y deliwyd gyda mi ar amser anodd iawn ,a'r dull gwybodus a pharchus wrth ymdrin â'r holl eitemau .Yr oedd y broses yn effeithiol iawn a didrafferth. Cymeradwyo yn fawr.

— N Williams - Ynys Mon

Roedd yn hynod ddiddorol gwylio ar-lein gan nad wyf erioed wedi gweld arwerthiant o’r blaen. Anfonwch ein diolch i Charles a Ben, mae'n rhaid eu bod wedi blino'n lân. Roeddem yn arbennig o falch gyda’r symiau annisgwyl ar gyfer y bwrdd ffreutur a rhai o'r darnau gemwaith.

Fyddwn i ddim yn oedi cyn argymell Charles a defnyddio cwmni Rogers Jones eto yn y dyfodol. Teimlais fod Rogers Jones yn gwmni dibynadwy iawn a'u bod yn cynnal lefel uchel o broffesiynoldeb tra hefyd fod yn agos-atoch ac yn bleser delio â nhw.

— R Rogers – Sir Benfro

O’r eiliad y camodd David Rogers Jones i mewn i’r eiddo, roedd yn amlwg i ni ei fod “yn gwybod ei stwff”. Roedd ceisio cael gwared ar dŷ ac eiddo perthnasau pell o bellter o 300 milltir i ffwrdd yn heriol iawn ond fe wnaethoch chi bethau'n hawdd i ni. Mae angen i mi ganmol a diolch hefyd i David o White's Removals. Gwnaeth eich tîm dawelu ein meddyliau, bwrw ymlaen â'r swydd a chyflawni'r hyn yr oeddech wedi’i ymrwymo i'w wneud. Ni allwn ddiolch digon i chi.

— Dr Roy a Mrs Janet Cecil

When our local cinema/theatre in Fishguard received a generous donation of artworks from a resident of the town for us to sell in order to raise much needed funds for the popular arts venue, we asked a local artist for her advice. She recommended speaking to Rogers Jones Auctioneers. None of us at Theatr Gwaun had any experience of art auctions, so we were grateful for the helpful advice offered by Charles and Ben at Rogers Jones in Cardiff and Carmarthen. Having guided us through the procedure and advised us on which items were suitable for an upcoming auction, they successfully sold all the pictures we gave them, and achieved a higher price than we had expected. We would certainly recommend them for the very professional and fair way in which they handled our sale for us.

— Mr Padget - Theatr Gwaun Fishguard

Charles recently valued the contents of an estate for us, travelling a considerable distance to do so and, as a family, we were impressed by his professionalism, expert knowledge and detailed advice. We can’t thank him enough and wouldn’t hesitate to recommend Charles and the team at Rogers Jones and Co.

— Alison and Mary Morris - Swansea

Imminent Auctions

Processed EC124535 42 A6 430 F 908 C AF53 B7 CEA6 C2

The Welsh Sale

27 Gorffennaf 2024 10:30 YB
Mid Wales Office

Canlyniadau

44243 0

British & Continental Fine Art

27 Gorffennaf 2024 3:30 YH
Mid Wales Office

Pori & Bidio

IMG 2062

Jewellery, Collectables & Fine Art

30 Gorffennaf 2024 10:00 YB
Bae Colwyn

Pori & Bidio

Subscribe to our catalogue alerts