Meddwl am Werthu? Rydym yn gwerthuso ac yn prisio eitemau ar-lein heb rwymedigaeth. Ble bynnag y byddwch chi! Gwerthusiadau Digidol

Hen bethau nad ydynt yn Ewropeiadd & Celfyddydd Gain gan gynnwys eitemau Asiaidd a Llwythol

To contact a specialist

Philip Keith BSC (Anrh)
ARBENIGWR CELFYDDYD ASIAIDD A LLWYTHOL & ARWERTHWR A PHRISIWR RHANBARTHOL

+447876 255060

Rydym yn gwerthu pob math o hen bethau a chelfyddyd gain sy'n tarddu o bob cornel o'r byd y tu allan i'r DU ac Ewrop. Rydym yn arbennig o hapus pan fyddant yn dychwelyd i'w cynefin, er enghraifft porslen Tsieineaidd yn ôl i Beijing, cerflun efydd o Krishna yn dychwelyd i Mumbai, pâr o focasin llwyth y Sioux I’r Midwest yn America neu fowlen Mamluk i Cairo. Yn yr un modd, cymaint yw'r galw gan gleientiaid sydd â diddordeb mewn Addurno Cartrefi, mae gwrthrychau anarferol o leoliadau egsotig yn aml yn gwerthu i gleientiaid mewn fflatiau chwaethus yn y dinasoedd neu blasdai gwledig.

Mae ein harwerthiannau Vintage & Hen Bethau niferus, a gynhelir yng Nghaerdydd a Bae Colwyn, yn rheolaidd yn cynnwys eitemau diddorol o bedwar ban byd. Gall ein tîm hefyd ddewis eitem o'r sector hwn ar gyfer ein harwerthiant Detholiadau a Chasgliadau sy’n cael eu cynnal deirgwaith y flwyddyn, yn seiliedig ar eu hansawdd, gwerth, prinder a’u pwysigrwydd.

Mae gan y prisiwr rhanbarthol, Philip Keith, brofiad helaeth mewn gweithiau celf Tsieineaidd, Tsieineaidd, Japaneaidd, Indiaidd a Chelf Lwythol, ar ôl gweithio gyda chwmni arwerthwyr rhyngwladol mawr yn y gorffennol.

Isod mae ychydig o erthyglau yn ymwneud â Hen Bethau nad ydynt yn Ewropeaidd a Chelfyddyd Gain gyda chofnod o'r eitemau a werthwyd gyda'u prisiau.

Our Expertise

Imminent Auctions

Processed EC124535 42 A6 430 F 908 C AF53 B7 CEA6 C2

The Welsh Sale

27 Gorffennaf 2024 10:30 YB
Mid Wales Office

Canlyniadau

44243 0

British & Continental Fine Art

27 Gorffennaf 2024 3:30 YH
Mid Wales Office

Canlyniadau

IMG 2062

Jewellery, Collectables & Fine Art

30 Gorffennaf 2024 10:00 YB
Bae Colwyn

Pori & Bidio

Subscribe to our catalogue alerts