Meddwl am Werthu? Rydym yn gwerthuso ac yn prisio eitemau ar-lein heb rwymedigaeth. Ble bynnag y byddwch chi! Gwerthusiadau Digidol

Amdanom ni

Wedi’i sefydlu ym 1992 gan David a Margaret Rogers Jones, mae cwmni Rogers Jones yn parhau i fod yn fusnes teuluol, gan gynnig arbenigedd mewn sawl maes gydag arwerthiannau’n cynnwys:

Mae ein tîm yn cynnwys chwe phrisiwr gyda chyfanswm o dros 150 mlynedd o brofiad rhyngddynt mewn gwerthfawrogi ac asesu pob math o hen bethau a chelfyddyd gain. Mae gan bob aelod o'r tîm ei ddiddordeb a phwnc arbenigol sy'n golygu bod arbenigedd eang gyda ni.

North west wales

David Rogers Jones
YMGYNGHORYDD AC ARWERTHWR RHANBARTHOL

RJ Region Map Mid Wales

Ben Rogers Jones BA (Anrh)
HYNAFOLION A CHELF GYMREIG & ARBENIGWR HEN BETHAU’R BYD CHWARAEON

RJ Region Map West Wales

Charles Hampshire LLB (Anrh)
ARWERTHWR RHANBARTHOL GORLLEWIN CYMRU, PRISIWR GEMWAITH, ORIORAU A CHWISGI

RJ Region Map North Wales

Stephen Roberts
ARWERTHWR RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU A PHRISIWR

RJ Region Map South East Wales

Philip Keith BSC (Anrh)
ARBENIGWR CELFYDDYD ASIAIDD A LLWYTHOL & ARWERTHWR A PHRISIWR RHANBARTHOL

Cynhelir ein harwerthiannau o ystafell arwerthu 4000 troedfedd sgwâr yng nghanol tref Bae Colwyn, Gogledd Cymru, ac yn ein safle 6000 troedfedd sgwâr mewn parc masnachu yng Nghaerdydd.

Mae gennym hefyd swyddfa brisio yng Nghaerfyrddin, sy'n gwasanaethu Gorllewin Cymru a lle gellir asesu, prisio a chynnig eitemau ar gyfer arwerthiant gyda'n harwerthwr rhanbarthol.

Rydym yn hen law wrth werthuso a gwerthu casgliadau preifat, clirio tai a gwasgaru ystadau. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth prisio cynhwysfawr at ddibenion yswiriant, profiant, adran deuluol ac ati. Mae cwmni Rogers Jones yn falch o'i berthynas â'i gwsmeriaid gan gynnwys banciau a chyfreithwyr yn ogystal â chleientiaid preifat ac, fel cwmni preifat, gallwn gynnig telerau hyblyg a chystadleuol.

Mae sawl record byd wedi’i thorri yn ein harwerthiannau gan gynnwys y pris morthwyl uchaf a gafwyd mewn arwerthiant yng Nghymru.

Heddiw, cwmni Jones yw un o’r cwmnïau arwerthu sy’n tyfu cyflymaf yn y DU, gan gynnig gwasanaeth rhagorol fel prif arwerthwyr Cymru.

Imminent Auctions

Angel

Fine Art & Interiors

5 Rhagfyr 2023 10:00 YB
Bae Colwyn

Pori & Bidio

Rugby 1

The Charlie Pritchard Rugby Collection

7 Rhagfyr 2023 9:30 YB
Caerdydd

Pori & Bidio

IMG 7771

Pre-Christmas Auction: Jewellery & Watches

8 Rhagfyr 2023 10:00 YB
Caerdydd

Pori & Bidio

Subscribe to our catalogue alerts