Meddwl am Werthu? Rydym yn gwerthuso ac yn prisio eitemau ar-lein heb rwymedigaeth. Ble bynnag y byddwch chi! Gwerthusiadau Digidol

Mae cymryd rhan yn ein harwerthiannau yn syml iawn.

Mae pob arwerthiant yn fyw ar ein platfform bidio byw ein hunain sy'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio.

Rydym am wneud prynu mewn arwerthiant mor dryloyw, agored a syml â phosibl, waeth beth yw pwynt pris yr eitem rydych chi ar ei hôl.

Ffi y Prynwr

Mae yna gomisiwn a ddefnyddir gan arwerthwyr Celfyddyd Gain o'r enw’r Premiwm Prynwyr. Mae’n swm comisiwn o bris y morthwyl. Mae ein cyfraddau Premiwm Prynwyr yn amrywio yn ôl y math o arwerthiant. Byddwch yn dod o hyd i'r wybodaeth hon pan fyddwch yn mewngofnodi i gynnig yn fyw ar blatfform byw Rogers Jones ac wrth lenwi ffurflenni cais comisiwn neu dros y ffôn.

Droite de Suite

Codir levee o 4% ar y prynwr ar ddarnau celf gwreiddiol gan artistiaid AEE a’r DU sy’n fyw neu sydd wedi marw yn ystod y 70 mlynedd ers yr arwerthiant, ac sy’n gwerthu am bris morthwyl dros 1000 Ewro (cyfwerth â GBP ). Droit de suite - Wikipedia

Dod o hyd i eitemau

Mae ein holl arwerthiannau i'w gweld yn llawn ar ein gwefan ac ar www.the-saleroom.com

Rydym yn cynhyrchu catalog darluniadol llawn ar gyfer Yr Arwerthiant Cymreig a'r Arwerthiant Dewisiadau a Chasgliadau ar y cyd. Mae ar gael deirgwaith y flwyddyn - Gwanwyn, Haf a Hydref cyn y tair arwerthiant.

Ar gyfer ein harwerthiannau Vintage & Hen Bethau, rydym yn cynhyrchu rhestr fewnol o eitemau sydd I’w gweld yn yr ystafell arwerthu, am ffi fechan sy'n cael ei roi i'n helusen enwebedig.

Mae ein holl arwerthiannau ar agor i'r cyhoedd I’w gweld yn ystafelloedd arwerthu’r Gogledd a’r De drwy apwyntiad. Mae’r amseroedd gwylio yn amrywio ar gyfer pob arwerthiant, felly checiwch y rhestr werthu neu'r catalog ar-lein ar gyfer pob arwerthiant.

Tanysgrifiadau

Gallwch danysgrifio i’n catalog darluniadol llawn (tair gwaith y flwyddyn) am £40 y flwyddyn (gan gynnwys cludiant DU)

Holwch am brisiau catalog ar gyfer Ewrop a gweddill y byd

Adroddiadau Cyflwr

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'ch eitem, gellir gofyn am adroddiad cyflwr a delweddau ychwanegol trwy e-bost, ond nid ar lafar. Sylwch nad yw disgrifiadau catalog a delweddau yn warant ac argymhellir yn gryf eich bod yn gwirio eich bod yn hapus efo’r eitem y mae gennych ddiddordeb ynddo.


Cynnig

Mae na amryw o ffyrdd I roi cynnig ar fidio:

Cynnig yn yr ystafell arwerthu

Ar hyn o bryd, does dim modd bidio mewn person.

Cynnig ‘yn fyw’ arlein

Mi fedrwch gynnig unrhywle yn y byd cyn belled bod ganddoch chi gyswllt â’r rhyngrwyd. Caiff hyn ei wneud drwy’n gwefan ni ac mae'n rhad ac am ddim.

Cynnig Comisiwn

I adael cynigion absennol, defnyddiwch ein gwefan, gan glicio ar yr eitem(au) neu os ydych wedi ymweld â'r ystafell arwerthu i weld yr eitem(au) mewn person, yna gellir llenwi ffurflen a'i dychwelyd I’n swyddfa.

Rhaid cyflwyno cynigion Comisiwn cyn diwedd y dydd gwaith ar y diwrnod cyn yr arwerthiant. Os bydd mwy nag un cynnig yr un fath yn cael eu derbyn, yna bydd yr un a dderbyniwyd yn gyntaf yn cael y flaenoriaeth.

Cynnig dros y Ffôn

Gallwch gymryd rhan yn yr arwerthiant drwy gynnig dros y ffôn am eitemau, fel y gwelwn ni orau, ac ar yr amod eich bod yn barod i gynnig hyd at ganol yr amcangyfrif o leiaf. Rhaid archebu llinellau ffôn cyn diwedd y diwrnod gwaith ar y dydd cyn y gwerthiant, ond cânt eu neilltuo ar sail y cyntaf I’r felin. Mae angen cwblhau ffurflen, holwch I dderbyn y ffurflen.

Taliad

Gellir talu (mewn punnoedd) cyn gynted ag y byddwch wedi ennill eich eitem(au) trwy drosglwyddiad banc yn unig. Derbynnir taliadau â siec ond ni chaiff eitemau eu rhyddhau nes bod sieciau wedi'u clirio.

Bydd manylion ein cyfrif banc ar yr anfoneb y byddwn yn anfon atoch dros ebost.

Dylid talu o fewn tri diwrnod i'r arwerthiant, a rhaid clirio arian o drosglwyddiadau gwifren a sieciau i'n cyfrif cyn y gellir casglu eitemau.

Hawl Ailwerthu Arlunydd

Os prynwch waith celf gan arlunydd byw neu arlunydd sydd wedi marw yn y 70 mlynedd diwethaf, ac sy’n costio mwy na’r hyn sy’n cyfateb i dros €1,000 mewn punnoedd sterling y DU, bydd yn rhaid i chi dalu breindal sy’n ymwneud â Rheoliadau Hawliau Ailwerthu Arlunwyr, 2006. Gweinyddir y breindaliadau gan y Design and Artists Copyright Society (DACS) neu’r Artist’s Collecting Society (ACS), ac ni chedwir unrhyw gostau trin gan gwmni Rogers Jones.

Mae eitemau a allai fod yn gymwys ar gyfer y breindal hwn wedi'u nodi yn y catalog gyda thic wrth ymyl rhif yr eitem.

Y taliadau breindal presennol ar gyfer eitemau cymwys dros €1,000 yw:

Hyd at €50,000 4%
€50,000.01 i €200,000 3%
€200,000.01 i €350,000 1%
€350,000.01 i €500,000 0.5%
Dros €500,000 0.25%

Mae’r taliadau breindal yn cael eu cyfrif gan ddefnyddio'rgyfradd gyfnewid o Ewro i sterling y DU ar ddiwrnod yr arwerthiant.

Mewnforio/Allforio

Eich cyfrifoldeb chi yw cael y trwyddedau mewnforio/allforio cywir a thrwyddedau CITES ar gyfer yr eitemau rydych yn eu prynu. Nid yw cwmni Rogers Jones yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am allforio nwyddau yr ydych wedi'u prynu.

Imminent Auctions

8b0a2b8d 2291 4a11 bac4 d0a81c6a1245

Jewellery & Collectables

20 Medi 2024 10:00 YB
Caerdydd

Pori & Bidio

IMG 2926

Furniture & Interiors

24 Medi 2024 10:00 YB
Bae Colwyn

Pori & Bidio

Jewellery, Collectables & Fine Art

1 Hydref 2024 10:00 YB
Bae Colwyn
Gwahoddir eitemau

Cyflwyno eitemau

Subscribe to our catalogue alerts