Meddwl am Werthu? Rydym yn gwerthuso ac yn prisio eitemau ar-lein heb rwymedigaeth. Ble bynnag y byddwch chi! Gwerthusiadau Digidol

Philip Keith BSC (Anrh)

ARBENIGWR CELFYDDYD ASIAIDD A LLWYTHOL & ARWERTHWR A PHRISIWR RHANBARTHOL

Philip keith

Philip yw ein harwerthwr a’n prisiwr rhanbarthol ar gyfer De Cymru, yn gofalu ar ôl pob ardal i’r dwyrain o Abertawe, tuag at y ffin â Lloegr ac i’r gogledd i ran ddwyreiniol Canolbarth Cymru. Philip hefyd yw ein harbenigwr ar weithiau celf a serameg Ddwyreiniol a chelf Lwythol.

Mae gan Philip dros 30 mlynedd o brofiad yn y busnes arwerthu, yn gweithio i Arwerthwyr rhanbarthol a rhyngwladol. Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn y Dwyrain Pell ac fe arweiniodd hynny at radd mewn Anthropoleg yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Yn dilyn hynny, bu’n treulio blynyddoedd lawer yn catalogio Celf Asiaidd, Celf Lwythol a Byd Natur i gwmni arwerthu Bonhams yn Llundain. Roedd yn cynnal arwerthiannau yn Singapôr, Sydney ac Efrog Newydd, ac yn delio â chleientiaid yn Awstralia, yr Unol Daleithiau, Ewrop, De-ddwyrain Asia a Hong Kong. Fe ehangodd Philip ei arbenigedd pan ddaeth yn Brisiwr Cyffredinol, gan ymgymryd â Phrisiadau yswiriant proffesiynol ysgrifenedig ar gyfer Amgueddfeydd cenedlaethol a rhanbarthol ac eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ynghyd â Phrisiadau profiant ar gyfer cyfreithwyr ac ysgutorion ystadau.

Fe symudodd Philip gyda’i deulu i Benarth ger Caerdydd yn 2001 a pharhaodd i ehangu ei arbenigedd mewn dodrefn Cymreig a chelf Gymreig gan weithio o swyddfa Bonhams yng nghanol Caerdydd. Mae'n gydawdur 'Tribal Art – The Essential World Guide' a gyhoeddwyd gan DK/Price Guide Co. Mae wedi rhoi benthyg eitemau o'i gasgliad i ITV, wedi ymddangos fel arbenigwr ar S4C ac wedi bod ar bwyllgor archwilio ac asesu Ffair Celfyddyd Gain Olympia.

Mae uchafbwyntiau arwerthu gyrfa Philip hyd yn hyn yn cynnwys llestr celadon Tsieineaidd ymerodrol (HK$17.3 miliwn), llestr ymerodrol Famille Rose o Tsieina (HK$5.4 miliwn), Cerfluniau Ben Enwonwu i’r ‘Daily Mirror’ (£361,000), ffon Polynesaidd o Ynysoedd y Marquesas ($75,000), Darlun gan L.S. Lowry (£80,000), paentiad olew gan Harold Harvey (£52,000), a chomôd argaenwaith Louis XIV (£53,000), y mwyafrif ohonynt a ddarganfuwyd yng Nghymru.

Mae diddordebau Philip yn cynnwys casglu paentiadau Affricanaidd modern a chelf lwythol draddodiadol, ymweld ag amgueddfeydd, teithio dramor, chwarae tenis, syrffio (yn wael), a bragu cwrw.

Philip Keith BSC (Anrh)
ARBENIGWR CELFYDDYD ASIAIDD A LLWYTHOL & ARWERTHWR A PHRISIWR RHANBARTHOL

+447876 255060

Articles & features written by Philip Keith BSC (Anrh)

Imminent Auctions

42200 1

The Welsh Sale

27 Ebrill 2024 10:00 YB
Caerdydd

Pori & Bidio

IMG 0508

Fine Art & Interiors

30 Ebrill 2024 10:00 YB
Bae Colwyn

Pori & Bidio

41675 2

Selections

30 Ebrill 2024 2:00 YH
Caerdydd

Pori & Bidio

Subscribe to our catalogue alerts