Yr Arwerthiant Cymreig

Mae’r Arwerthiant Cymreig yn arwerthiant o Gelfyddyd Gymreig a Phorslen a chrochenwaith Cymreig, ac eitemau Cymreig dethol. Mae’r arwerthiant wedi bod yn gweithredu ers dros 10 mlynedd ar ei ffurf bresennol ac, yn y cyfnod hwnnw, mae wedi cyflawni record o ran rhai prisiau.

Mae gennym wybodaeth ac arbenigedd cynhwysfawr o artistiaid blaenllaw Cymru, porslen Abertawe a Nantgarw a chrochenwaith Llanelli. Ni oedd priswyr stad Syr Kyffin Williams yn 2006 ac mae ei waith celf yn nodwedd amlwg o bob arwerthiant Cymreig, yn union fel y mae Donald McIntyre, Josef Herman, Graham Sutherland, John Piper a’r rhan fwyaf o arlunwyr adnabyddus Cymru yn yr 20fed ganrif.

Uchafbwyntiau Diweddar