
20 Awst 2020
Meddwl am Werthu? Rydym yn gwerthuso ac yn prisio eitemau ar-lein heb rwymedigaeth. Ble bynnag y byddwch chi! Gwerthusiadau Digidol
ARWERTHWR RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU A PHRISIWR
Mae Stephen (Steve) Roberts wedi’i leoli yn ein hystafelloedd arwerthu ym Mae Colwyn ac mae’n werthuswr ar gyfer pob math o hen bethau, celf gain, gemwaith a nwyddau casgladwy i gleientiaid y Gogledd. Mae eitemau sy'n cael eu hanfon i ystafell arwerthu Bae Colwyn yn cael eu rhoi naill ai mewn arwerthiant Vintage a Hen Bethau a gynhelir bob pythefnos ym Mae Colwyn, neu’r Arwerthiant Cymreig neu'r arwerthiant Dewisiadau a Chasgliadau a gynhelir yng Nghaerdydd. Mae’r eitemau dethol hyn ar gyfer y ddau arwerthiant olaf yn cael eu cludo i’r arwerthiannau yng Nghaerdydd yn ddi-dâl. Mae Steve hefyd yn cynnal prisiadau proffesiynol at ddibenion profiant ac yswiriant.
Datblygodd Steve ddiddordeb mewn hen bethau a nwyddau casgladwy tua 40 mlynedd yn ôl ar ôl cyfarfod â’i ddarpar wraig a chwilio am bethau i sefydlu eu cartref. Yn fuan iawn, tyfodd y diddordeb yn nwyddau amrywiol y gorffennol yn fusnes, a datblygodd hwnnw i fod yn un oedd â phresenoldeb mewn dros 40 o ffeiriau hen bethau yn rhyngwladol a’r DU yn flynyddol, dwy siop ac adeiladau storio a theithiau prynu i Ffrainc. Yn ystod y chwe blynedd olaf cyn ymuno â chwmni Rogers Jones, roedd Steven yn pacio a chludo cynwysyddion i arfordir De-ddwyrain America.
Ers ymuno fel prisiwr a chatalogydd eang ei ddiddordeb yn 2014, mae ei angerdd yn parhau’n gryf, gydag awydd o hyd i ddysgu mwy. Ar ôl mynychu arwerthiannau di-ri fel prynwr ym Mae Colwyn, roedd Steve yn adnabod y bobl leol a’r staff yn dda ac mae wedi ymgartrefu’n gyfforddus i’r ystafell arwerthu.
Er yn annifyr i rai, mae’n cyfaddef nad yw byth yn gwybod pryd i roi'r gorau iddi ac mae cael prosiectau parhaus y tu allan i oriau swyddfa yn golygu bod gwaith yn llythrennol bron yn hobi hefyd. Dechreuodd Steve a'i wraig ymchwilio i'w coeden deuluol ychydig flynyddoedd yn ôl ac maen nhw’n treulio llawer o’u hamser rhydd yn mynd ar antur yn chwilota am wybodaeth ac mewn mynwentydd.
I Steve, mae ei restr o eitemau nodedig yn ddiddiwedd ac yn ddim i’w wneud â prun ai a oedden nhw’n werthfawr iawn neu’n isel eu gwerth. Cyffro’r helfa, darganfod pethau prin neu anarferol, ymchwilio os oes angen - rheiny, yn ei farn o, yw elfennau gorau’r swydd bob amser ac, mae’r pris yn eisin ar y gacen yn unig.
Mae Steve a'i deulu, sydd wedi tyfu i fyny erbyn hyn, wedi byw yn y Gogledd hardd ar hyd eu hoes (arbed llawer o deithio) ac ni fyddent yn dymuno byw yn unrhywle arall.
Isod mae erthyglau yn ymwneud â rôl Stephen fel prisiwr rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru